Urdd Gobaith Cymru – Cyflwyniad Tystiolaeth
Dilyniant i Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon ac edrych i’r dyfodol gan gynnwys y datganiad ar y cyd 2030.
Rhagymadrodd
Mae Urdd Gobaith Cymru yn croesawu ffocws parhaus y Pwyllgor ar gryfhau perthnasau Cymru–Iwerddon. Fel prif sefydliad ieuenctid sy’n hyrwyddo’r Gymraega diwylliant Cymru, rydym wedi cyfrannu’n weithredol at fentrau y ddwy wlad ac yn gweld potensial sylweddol i ddyfnhau’r cydweithrediad drwy’r Datganiad ar y Cyd 2030.
Rydym yn croesawu’r Datganiad ar y Cyd 2030 ac yn gweld ynddo gyfle gwych i gryfhau’rffocws ar ymgysylltiad ieuenctid. Mae cynnwys pobl ifanc yng Nghymru ac yn Iwerddon yn allweddol i
adeiladu pontydd cydweithredol a chyfeillgarwch ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Nid oedd gan Urdd Gobaith Cymru mewnbwn uniongyrchol at ffurfio’r datganiad. Credwn y gall cydnabod cyfraniad mentrau megis partneriaeth yr Urdd aTG Lurgan, sy’n hybu defnydd y Gymraeg a’r Wyddeleg ac yn rhannu arferion da, ychwanegu gwerth i’r datganiad.
A. EinRhaglen Presennol Cymru–Iwerddon
Mae ein rhaglenni’n meithrin balchder yn yr etifeddiaeth ieithyddol ac yn creu cyfeillgarwch ystyrlon rhwng pobl ifanc (15-25oed) Cymreiga Gwyddelig, gan wreiddio dwyieithrwydd y tu hwnt i addysg ffurfiol.
Mae ein Cyfarwyddwr Rhyngwladol yn cymryd rhan yn gyson mewn cyfarfodydd ymgysylltu cymdeithas sifil rhwng Cymru ac Iwerddon,gan gyfrannu safbwyntiau ar faterion ieuenctid,
diwylliant a chydweithrediad ieithyddol. Mae’r presenoldeb hwn yn sicrhaubod llais pobl ifanc Cymru yn cael ei gynrychioli mewn trafodaethau strategol, ac yn creu cyfleoedd i gryfhau partneriaethau, rhannu arferion da, a datblygu prosiectau ar y cyd sy’n hybu’r Gymraeg a’r Wyddeleg.
Ym mis Mawrth 2020, sefydloddUrdd Gobaith Cymrubartneriaeth gyffrous gyda TG Lurgan, mudiad ieuenctid Gwyddelig sy’n hyrwyddo’r iaithWyddeleg drwy gerddoriaeth gyfoes. Mae sianel YouTube TG Lurgan yn llawn cynyrchiadau trawiadol sydd wedi denu miliynau o
wylwyr, gan wneud yr iaith yn fwy deniadol i bobl ifanc.
O brofiadyr Urdd, mae’r prosiect hwn wedi:
· Datblygu balchder cenedlaethol a rhyngwladol a chodi statwsieithoedd lleiafrifol ymhlith pobl ifanc.
· Cynhyrchu fideos cerddoriaeth dwyieithog, sydd yn denu miliynaui’w wylio ar llwyfannau ffrydio
· Cyflwyno cyfnewidfeydd blynyddol, gan gynnwys dros 1,000 o bobl ifancar draws Cymru ac Iwerddon.
· Dod â siaradwyrieithoedd lleiafrifol ynghydo wahanol gymunedau.
· Sefydlu arfer gorau wrth greu a rhannu cynnwys digidol.
· Normaleiddiodwyieithrwydd mewn cyd-destunau cymdeithasol y tu hwnt i addysg ffurfiol.
· Nifer y teithiau:6, 4 Cymru i Iwerddona 2 Iwerddon i Gymru
· Cyfanswm y cyfranogwyr: 1023 (163 o Gymru, 860 o Iwerddon)
“Ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’m harddegau yn ystod y pandemig, roedd hwn yn brofiad anhygoel sy’ngolygu cymaint mwy nag y gall geiriauegluro.”
“Dysgodd y daith hon fwy i mi am yr iaith Wyddeleg ac fe wnaeth gynyddu fy ngwerthfawrogiad o’r Gymraeg.”
“.Fe wnaethom uno dros gerddoriaeth, sioeau cerdd, a hyd yn oed ddysguCymraeg ar gyfer cydweithrediad ar Water Under the Bridge - .”
Dolenni i gyd-gynyrchiadau’r Urdd a TG Lurgan (Cynhyrchiad 2025 i’w rhyddhau)
Golau'n Dallu / Dalltaag na Solise (Ionawr 2021)
Gwenwyn / Nimhneach (Ebrill 2021)
Dŵr Dan Bont / Uisce Faoin Droichead (Mehefin 2022
Gwalia / A Bhanba,O Gymru (Ebrill 2023)
Human (Ebrill2023)
Heno'n Ifanc / Muid Fós Óg (Awst 2023)
Texas Hold 'Em (Awst 2024)
Dog Days (Awst 2024)
2. Gŵyl Lleisiau Eraill – Aberteifi 2025, prosiect diwylliannol sy’n cynnwys cyfnewid rhwng dau berfformiwr ifanco Gymru a dau o Iwerddon, gan berfformio yng Nghymru ac Iwerddon.
Yn rhan o’r prosiect daethy 4 at ei gilydder mwyn plethu cerddoriaeth traddodiadol Cymreig gyda cherddoriaeth traddodiadol Gwyddeleg. Yn ysgol Gwyl Lleisiau Eraill Aberteifi, perfformioddy grwp mewn lleoliadau o amgylch y dref, gan gyflwyno cerddoriaeth Cymraeg a Gwyddeleg i gynulleidfa eang. Bydd y pedwarawd yn perfformio yn ystod Gwyl Lleisiau Eraill Dingle ddechrau Rhagfyr, ac yn ystod dathliadau Gwyl Ddewi yn Dulyn mis Mawrth 2026.
“Cael profiadarbennig yn cael gwybod am ddiwylliant newydda chael dysgu am diwylliant gwahanol”
“Amazing opportunities i weld y Welsh musica’r llwyfan. Gweld y similarities between iaith
Gymraeg a’r iaith Gwyddeleg. A’r tebygrwydd mewn cerddoriaeth.” “Ffordd o adeiladua chreu pontydd rhwng cerddorion Cymru ac Iwerddon.”
“Welsh musiciansand Irish musicians can come togetherand listen to different music “ “Ffordd o bobl o Iwerddon a Chymru i rhannu cerddoriaeth”
3. Cydweithio rhwng Theatr ieuenctid Cenedlaethol yr Urdd a Crooked House Theatre Company / Kildare YouthTheatre Cymru. Ebrillac Awst 2025. Ym mis Ebrill2025, mynychodd 5 person ifanc o Gymru, ynghyd â chyfoedion o Iwerddon, weithdy preswyl i drafod themâuhunaniaeth a dathlu ieithoedd lleiafrifol mewn ffordd greadigol. Ym mis
Awst, perfformiodd 10 o bobl ifanc o Gymru mewn gŵyl yn dathlu ieithoeddlleiafrifol, gan rannu gwaitha grëwyd ar y cyd â grŵp o Iwerddon. Mae trafodaethau ar y gweilli wahodd y grŵp o Iwerddon i Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai 2026 ac i’r Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst 2026 i gyd-berfformio.
4. Rhannu arfer – Chwarae yn Gymraeg. Ar Ddydd GŵylDewi 2023, yn ystodymweliad i ysgol Gynradd Wyddeleg Galescoil Thaobh na Coille yn Ne Nulyn yng nghwmni Gweinidog Y Gymraeg ac Addysg Cymru, cyflwynwyd pecyn cymorth yr Urdd sydd ar gael i ddefnyddio mewn ysgolion er mwyn annogdefnydd o ieithoeddlleiafrifol ymhlith dysgwyr,plant a phobl ifanc. Dechreuodd y fenter hon yma yn Nulyn ac mae bellach yn rhan annatod o’n hymgysylltiad rhyngwladol gyda phobl ifanc a ddefnyddiwn ym mhob un o’n prosiectau rhyngwladol.
B. Effaith hyd yma
Mae’r bartneriaeth rhwng yr Urdd a TG Lurgan yn enghraifft o sut y gall prosiectau dan arweiniad ieuenctid ffynnu, esblygu a chyfrannu’n uniongyrchol at ddiplomyddiaeth
ddiwylliannol. Dros y pum mlynedddiwethaf, mae’r fenterhon wedi creu cyfleoedd unigryw i bobl ifanc o Gymru ac Iwerddon gydweithio, gan ymgysylltu’n uniongyrchol â dros 1000 o gyfranogwyr sy’n siarad Cymraeg a’r Wyddeleg. Trwy brosiectau creadigol, cyfnewidfeydd diwylliannol a chynyrchiadau digidol, mae’r bartneriaeth wedi hybu statws ieithoedd
lleiafrifol, cryfhau cysylltiadau rhyngwladol, ac ennillmiliynau o wyliauar lwyfannau ffrydio byd-eang. Mae hyn yn dangos sut y gall prosiectau ieuenctid fod yn gatalydd ar gyfer cydweithrediad rhyngwladol a hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol.”
Mae’r prosiectau hyn wedi darparucyfleoedd r sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at ddatblygiad personol, ieithyddol a chreadigol pobl ifanc. Yn benodol, maent wedi:
o Cryfhau hyder ieithyddol drwy brofiadau ymarferol: “Wnaeth y daith roi hwb i’m hyder i siarad Cymraeg a chael cyfeillgarwch gyda phobl newydd.”
o Ehangu gorwelion diwylliannol: “Dysgais lawer am y Gymraeg a’r Wyddeleg – roedd hi’n agoriad llygad i weld pa morangerddol yw’r ddwy wlad am eu hieithoedd.”
o Datblygu sgiliau creadigol a pherfformio: “Roedd y cyngerdd terfynol yn uchafbwynt – perfformio ar lwyfan gyda grŵp rhyngwladol oedd yn brofiad bythgofiadwy.”
o Creu cysylltiadau rhyngwladol: “Roedd cyfarfod â phobl eraill sy’n rhannu’r un angerdddros eu hiaith leiafrifol yn swreal ac yn gysurus.”]
Yn ehangach, mae’r prosiect wedi:
o Cynyddu statws ieithoedd lleiafrifol ymhlith pobl ifanc drwy brosiectau digidol a chyd-gynyrchiadau cerddorol.
o Sefydlu rhwydweithiau cydweithredol sy’n cryfhau cysylltiadau diwylliannol maes pobl ifancrhwng Cymru ac Iwerddon.
o Darparu llwyfan ar gyfer arweinyddiaeth ieuenctid mewn cyd-destun rhyngwladol, gan gyfrannu at nodau’r Datganiad ar y Cyd 2030
3. Cyrhaeddiad digidol. Mae cyd-gynyrchiadau’r Urdd a TG Lurgan wedi denu miliynau o wyliau ar YouTube a llwyfannau ffrydiobyd-eang. Mae’r llwyddiant hwn nid yn unig yn dathlu’r cysylltiadau rhwng pobl ifanc yng Nghymru ac Iwerddon, ond hefyd yn amlygu pwysigrwydd ieithoedd lleiafrifol i gynulleidfa ryngwladol.
4. Cyrhaeddiad Wasg. Bu sylw cyfryngol sylweddol yng Nghymru ac yn Iwerddon ar prosiectau hyn. Yng Nghymru, darlledwyd deunydd ar BBC Radio Cymru, ynghyd â chynnwys golygyddol ar BBC Cymru Fyw, ac eitemau a chyfweliadau ar Heno. Yn Iwerddon, nodwyd amrywiaeth o sylw yn y wasg ac ar y cyfryngau darlledu, gan gynnwys eitem deledu ar TG4, cyfweliadau ar Raidió na Gaeltachta, yn ogystal â sylw mewn print ac ar-lein gan sefydliadau megis RTÉ a’r Irish Independent.
C. Edrych ymlaen at 2030 – Argymhellion Allweddol
Parhau â chydweithrediad creadigol blynyddol sy’n hybu’r Gymraega’r Wyddeleg ymhlith pobl ifanc, gan adeiladu ar lwyddiant cynyrchiadau cerddorol a digidol sydd eisoes wedi denu miliynauo wyliau ar-lein.Yn ogystal, ehangu’rfenter i gynnwysffurfiau celf newydd megis ffilm fer, theatr ryngwladol a chynnwys digidol ar lwyfannau byd eang, er mwyn cynyddu cyrhaeddiad a statws ieithoedd lleiafrifol.
Darparu llwyfannau ar gyfer arweinyddiaeth ieuenctid, gan sicrhaubod pobl ifanc yn rhan o lunio polisïau a phrosiectau sy’n hyrwyddo cymdeithasu dwyieithog. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd i arwain prosiectau creadigol, cyfrannu at drafodaethau strategol, a chreu rhwydweithiau rhyngwladol sy’n meithrin hyder ieithyddol a sgiliau arwain.
Hwylusocyfnewidfeydd staff a rhaglenni hyfforddiant ar y cyd rhwng sefydliadau
diwylliannol Cymreig a Gwyddelig, gan rannu arferion gorau mewn defnydd iaith tu allan i’r dosbarth, rheoli prosiectau creadigol, a datblygustrategaethau digidol. Bydd hyn yn cryfhau gallu sefydliadol ac yn sicrhau bod y ddwy wlad yn elwa ar arbenigedd ar y cyd.
Defnyddio Erasmus+, TAITH a chynlluniau tebyg i ehangugorwelion diwylliannol pobl ifanc drwy gyfnewidfeydd rhyngwladol, prosiectau celfyddydol ar y cyd, a gweithdai sy’n hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol. Bydd hyn yn creu cyfleoedd i gysylltu â rhwydweithiau
Ewropeaidd ehangach, gan gryfhau statwsCymru fel partnergweithredol mewn cydweithrediad ieuenctid
Mae’r Urdd yn parhau’n ymrwymedig i weithio ar y cyd â mewn partneriaeth gyda TG Lurgan.Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i fod wrth galon cydweithrediad diwylliannol ac ieithyddol, gan gryfhau pontyddrhwng y ddwy wlad, hybu statws ieithoedd lleiafrifol, a chreu cyfleoedd ar gyfer arweinyddiaeth ieuenctid mewn cyd-destun rhyngwladol. Trwy brosiectau creadigol, cyfnewidfeydd diwylliannol a rhwydweithiau strategol, byddwn yn adeiladu ar y
llwyddiannau presennol i gefnogi Llywodraeth Cymru i wireddu’rweledigaeth sydd wedi ei osod Datganiad ar y Cyd 2030.